Disgrifio rhannau o’r corff
DAN Dewch! Dewch i chwarae rygbi.
PAWB Rygbi! Rygbi! Ieeeei!
DAN Woooo, dw i’n edrych ymlaen.
PAWB A fi! A fi!
DAN Wyt ti’n barod i chwarae rygbi, Kasia?
KASIA Ydw, dw i’n barod ond mae rhywun wedi dwyn y bêl rygbi.
PAWB Beth? Naaa…
KASIA Lleidr.
IZZIE O! Welaist ti’r lleidr ’ma?
KASIA Do, ond ddim yn iawn. Doeddwn i ddim yn gwisgo fy sbectol.
PAWB O, Kasia…
KASIA Ond roedd y lleidr yn fyr.
DAN Dw i’n dal, felly nid fi yw’r lleidr.
IZZIE Beth arall?
KASIA Roedd trwyn hir gyda’r lleidr fel Pinocchio.
IZZIE Mae gen i drwyn smwt, felly nid fi yw’r lleidr.
KASIA Roedd bola crwn gyda’r lleidr.
ELIN Mae gen i fol fflat, felly nid fi yw’r lleidr.
KASIA Hmmm, roedd traed bach iawn gyda’r lleidr.
CARTER Mae traed eitha’ mawr gyda fi, felly nid fi yw’r lleidr.
IZZIE Oes gan y lleidr goesau hir?
KASIA Nac oes, ond roedd pedair coes gyda’r lleidr.
PAWB Pedair coes? Gel, ti yw’r lleidr.
DAN Ble mae’r bêl rygbi?
More on Gwrando
Find out more by working through a topic
- count2 of 18

- count3 of 18

- count4 of 18

- count5 of 18
