Paratoi ar gyfer y disgo
KASIA Wyt ti’n barod am dy ddisgo heno, Carter?
CARTER Disgo? Pa ddisgo?
KASIA Dy ddisgo yn neuadd y dref.
CARTER O, ie! Mae’n dechrau am chwech o’r gloch. Faint o’r gloch ydy hi nawr?
KASIA Saith o’r gloch y bore.
CARTER Grêt. Mae digon o amser gyda fi i baratoi felly.
Ond plîs Kasia, cadw golwg ar yr amser, iawn?
KASIA Iawn.
Mae hi’n wyth o’r gloch.
Mae hi’n naw o’r gloch.
Mae hi’n ddeg o’r gloch.
Mae hi’n unarddeg o’r gloch.
Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch.
CARTER Amser cinio.
Mae hi’n hanner awr wedi deuddeg.
Amser i ymarfer eto.
KASIA Iawn.
Mae hi’n un o’r gloch.
Mae hi’n ddau o’r gloch.
Mae hi’n dri o’r gloch.
Mae hi’n bedwar o’r gloch. Amser te.
CARTER Amser i ymarfer eto.
KASIA Mae hi’n bump o’r gloch.
CARTER Mae’r amser yn hedfan…
KASIA Mae hi’n chwarter wedi pump.
Mae hi’n hanner awr wedi pump.
Mae hi’n chwarter i chwech.
CARTER Eh? Faint o’r gloch ydy hi, Kasia?
KASIA Yhy… mae’n iawn. Mae hi’n chwech o’r gloch…
CARTER Yn y bore.
KASIA/CARTER AAAAARGH!
CARTER O diâr. Rydyn ni’n rhy hwyr i’r disgo.
Gwell hwyr na hwyrach!
More on Gwrando
Find out more by working through a topic
- count10 of 18

- count11 of 18

- count12 of 18

- count13 of 18
