| 
 |   Taflenni argraffu ar gyfer y cymeriadau, y propiau, a'r llwyfan.
Rhowch sioe ymlaen ym myd lliwgar Andy Pandy.
Mae angen:- Un bocs esgidiau
- Pâr o siswrn diogelwch (gofynnwch bob amser i oedolyn eich helpu)
- Glud
- Pensiliau lliw neu baent
- Llawer o ddychymyg!
Cam-wrth-gam:
1. Yn gyntaf, argraffwch y dalennau cefndir (printadwy 1 & 2) a'u lliwio gyda'ch pensiliau lliw neu baent.
2. Yn awr, gosodwch y blwch esgidiau ar un o'i ochrau hirion a gludo'r ddalen gyntaf o fewn y blwch a phlygu'r ail ddalen dros y top. Torrwch dwll hirsgwar yn nhop y blwch esgidiau - yma y byddwch yn symud y cymeriadau yn eich theatr. Tameidiau ychwanegol o olygfeydd i'w gludo wrth y blwch ydy dalennau printadwy 3 a 4.
3. Argraffwch y dalennau o luniau cymeriadau (dalennau printadwy 5, 6, 7 ac 8) a'u gludo wrth ddarn o gerdyn (gallwch ddefnyddio caead y blwch esgidiau!). Gofynnwch i rywun mewn oed eich helpu i dorri o amgylch y cymeriadau ac wedyn eu lliwio eich hunan.
4. Argraffwch y props (printadwy 9) a gofyn i rywun mewn oed eich helpu i dorri o'u hamgylch ac wedyn eu lliwio.
5. Erbyn hyn mae gennych eich theatr Andy Pandy eich hunain. Ewch ati i greu straeon a threfnu andros o berfformiad! Gallwch hyd yn oed greu cymeriadau newydd a'u cynnwys hwy.
 |  |
TM/BBC/Ben Prods.LLC © BBCWW/Ben Prods.LLC.2001
|