Dan Puw a Deri Tomos i dderbyn dwy o wobrau'r Brifwyl

  • Cyhoeddwyd
Dan PuwFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Puw yn hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin

Mae enillwyr dau o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol wedi eu cyhoeddi.

Dan Puw o'r Parc ger Y Bala yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams am ei gyfraniad gwirioneddol i'w ardal leol.

Mae'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg wedi ei chyflwyno i'r Athro Deri Tomos o Lanllechid yng Ngwynedd am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y ddau yn derbyn eu gwobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn rhwng 4-12 Awst.

Linebreak

Mwy am yr Eisteddfod Genedlaethol:

Linebreak

Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

Gwaith Dan Puw yw ffermio ond mae'n cael ei wobr am ei waith fel hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin.

Mae wedi bod yn hyfforddi cantorion ei ardal ar gyfer eisteddfodau a'r Å´yl Gerdd Dant am flynyddoedd, gan gynnwys 15 mlynedd yn arwain Aelwyd yr Urdd yn y pentref.

Yn aelod o'r Gymdeithas Gerdd Dant ers ei 20au, mae bellach yn aelod annrhydeddus ac yn parhau i rannu'i arbenigedd.

Bydd yn derbyn ei fedal ar lwyfan y pafiliwn yn ystod yr Eisteddfod.

Deri Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Athro Deri Tomos yn derbyn ei wobr mewn seremoni ar faes yr Eisteddfod

Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg

Yn wreiddiol o Gaerdydd, bu'r Athro Deri Tomos yn ddarlithydd ym Mangor wedi cyfnodau'n astudio yn y ddinas ac yng Nghaergrawnt.

Mae'n adnabyddus am ei gyfraniadau i gynlluniau gradd ym meysydd Biocemeg, Bioleg a Biofeddygaeth, ac roedd yn gyfrifol am ddatblygu rhannau helaeth o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y graddau.

Bu hefyd yn treulio cyfnodau'n ymchwilio dramor, yn Adelaide, Utah a Heidelberg, yn ogystal â phoblogeiddio Gwyddoniaeth i gynulleidfa Gymraeg.

Mae'n wyneb a llais adnabyddus ar y cyfryngau, ac wedi ysgrifennu erthyglau, colofnau ac erthyglau i esbonio ar gyfer Wicipedia.

Bydd yn derbyn ei wobr mewn seremoni ar y maes.

Straeon perthnasol