Heddwas wnaeth daro dyn naw gwaith 'wedi gwneud dim byd o'i le'

PC Richard Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd PC Richard Williams ei ffilmio yn dyrnu Steven Clark ag un llaw wrth iddo afael yn ei wddf â'i fraich arall

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddog heddlu a darodd ddyn yr oedd yn ei arestio "dro ar ôl tro" yn ei ben wedi dweud wrth wrandawiad camymddygiad nad oedd "wedi gwneud dim byd o'i le".

Mae PC Richard Williams yn gwadu wyth honiad o ddefnyddio grym afresymol yn ystod y digwyddiad ym Mhorthmadog ym mis Mai 2023.

Roedd y swyddog yn un o ddau o Heddlu Gogledd Cymru a gafodd eu hanfon i stad o dai yn dilyn adroddiad am ffrae ddomestig.

Mae'r gwrandawiad yn dilyn achos yn Llys y Goron Caernarfon yn 2025, lle cafodd PC Williams ei ganfod yn ddieuog o ymosod a thagu'n fwriadol.

Disgrifiad,

Cafodd fideos o gamerâu corff yr heddlu a rhai o wefannau cymdeithasol eu dangos i'r gwrandawiad

Mae lluniau o gamera corff a fideo gan gymdogion yn dangos ffrwgwd rhwng PC Williams a Steven Clark o flaen tŷ adeg y digwyddiad.

Mae'r fideo wedyn yn dangos y swyddog ar ben Mr Clark, yn ei afael o amgylch ei wddf cyn ei daro naw gwaith yn ei ben.

Dywedodd PC Williams fod swyddogion wedi cael gwybod bod Mr Clark, a oedd yn 34 oed ar y pryd, wedi cymryd canabis ac amffetaminau, a bod ganddo hanes o wneud bygythiadau, gan gynnwys bygythiadau gyda chyllell.

Wrth roi tystiolaeth yn ei amddiffyniad ar drydydd diwrnod y gwrandawiad ym Mae Colwyn, dywedodd PC Williams fod Mr Clark yn gwrthsefyll cael ei arestio ac wedi "taclo'r" swyddog arall, PC Einir Williams, "fel chwaraewr rygbi" i'r llawr.

Dywedodd bod "angen i mi ei gael i'r llawr er mwyn cael rhywfaint o reolaeth".

"Y gafael o amgylch ei wddf wnaeth fy ngalluogi i'w gael i'r llawr."

Dywedodd PC Williams fod Mr Clark wedi parhau i wrthsefyll, a'i fod yn poeni y gallai ddianc o'i afael.

Dywedodd PC Williams hefyd fod ei safle yn golygu nad oedd yn gallu cyrraedd ei Taser na'i chwistrell analluogi.

"O'n i'n meddwl mai fy opsiwn gorau fyddai ergydion i dynnu sylw," meddai.

'Gwneud y gorau y gallwn i'

Dywedodd PC Williams wrth y gwrandawiad ei fod yn defnyddio ei law chwith, a'i fod yn teimlo nad oedd ganddo lawer o ddylanwad na grym y tu ôl i'r ergydion oherwydd ei safle.

"Fy mwriad oedd tynnu sylw Steven Clark i symud i'w afael ar y llawr," meddai.

"Doeddwn i ddim eisiau defnyddio un dyrniad, gan y byddai hynny wedi rhoi amser iddo ymateb."

Dywedodd y swyddog ei fod wedi teimlo Mr Clark yn stopio gwrthsefyll yn gorfforol ar ôl yr ergydion.

Gwadodd PC Williams fod ei ymateb yn ormodol neu ei fod wedi taro Mr Clark fel cosb am iddo wrthsefyll cael ei arestio.

Ar ôl gwylio'r fideo, gofynnwyd iddo a oedd yn teimlo y dylai fod wedi gweithredu'n wahanol.

"Ro'n i'n gwneud y gorau y gallwn i mewn sefyllfa anodd," meddai.

"Dydw i ddim yn teimlo fy mod i wedi gwneud unrhyw beth o'i le."

Yn ogystal â'r honiadau ynghylch yr ergydion, mae PC Williams yn wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn ynghylch defnyddio gafael o amgylch gwddf Mr Clark, defnyddio chwistrell analluogi'n afresymol, a'i daflu neu ei ollwng i gefn fan heddlu.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.