
03/05/2026
Yr hanesydd Elin Tomos sy’n paru menywod Cymru heddiw ag arloeswyr o'r gorffennol. Historian Elin Tomos pairs Welsh women with pioneers from the past.
Yr hanesydd Elin Tomos sy'n paru menywod Cymru heddiw ag arloeswyr o'r gorffennol. Yn y bennod hon, mae'r artist Lisa Eurgain Taylor yn camu i fyd Margaret Lindsay Williams, un o artistiaid Cymraeg amlycaf ei chyfnod. Yn ystod ei hoes, fe beintiodd bortreadau di-ri o’r teulu brenhinol, prif weinidogion ac arlywydd America - ond mae ei henwogrwydd wedi pylu ers ei marwolaeth ym 1960. Cawn ddysgu am ymdrechion Margaret i gael ei pharchu mewn diwylliant celfyddydol a oedd yn anwybyddu merched yn ogystal â phrofiad Lisa ei hun o lunio gyrfa mewn byd lle mae menywod yn dal i orfod ymladd am gydnabyddiaeth gyfartal.
Ar y Radio
Darllediad
- Sul 3 Mai 202616:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!
