Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Owain Richards

Beti George yn holi Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar. Beti George interviews Owain Richards Police Commissioner, Gibraltar.

Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar yw gwestai Beti George, ac mae'n cael ei alw yn " Geidwad y Graig".

Fe gafodd ei fagu ar fferm Cae’r Defaid ger Trimsaran yng Nghwm Gwendraeth, ac roedd o wrth ei fodd gyda rhaglenni am yr heddlu fel 'The Bill' ac fe benderfynodd yn fachgen ifanc mai plismon oedd ef am fod wedi tyfu fyny.

Fe ddechreuodd ei yrfa yn Aberystwyth, aeth ymlaen i'r "Met" yn Llundain ac fe gafodd ei ddyrchafu i fod yn Commander. Roedd Owain wedi ei leoli yn Wandsworth borough, yn Tooting fel Arolygydd Ditectif.

Bu'n gweithio wedyn yn Barnet, a Kingston Upon Thames fel Prif Arolygydd yna dyrchafiad arall i fod yn Arolygydd Prif Dditectif, ble roedd o’n delio gyda throseddau yn erbyn plant. Roedd hyn yn anodd iawn, a fynta’u yn dad ei hun, roedd darllen a delio gyda rhai o’r achosion difrifol hynny yn erchyll, ond roedd hi’n rhan o’r swydd ac roedd rhaid dysgu sut i ddygymod ar sefyllfaoedd oedd yn codi yn y gweithle.

Yn ystod y cyfnod yma hefyd, roedd ail strwythuro mawr yn digwydd ar draws Heddlu’r Met, a daeth Owain yn Prif Uwch-arolygydd yn San Steffan. Roedd hyn yn anhygoel wrth edrych yn ôl. Roedd Llundain mor iconic, ac roedd dros 2 fil o staff yn gweithio oddi dano ar yr amser. Roedd yn gyfrifoldeb mawr!
Cafodd dau heddwas ei hanafu yn ddifrifol yn y cyfnod yma, ac mae Owain yn cofio mynd i’w gweld yn yr ysbyty.

Ond llynedd fe benderfynodd symud gyda'i wraig a'i blant i rywle mwy gwledig, ac fe wnaeth gais am swydd Comisiynydd yr Heddlu yn Gibralter, a'i gael.

Mae'n rhannu hanesion ei fywyd ac yn dewis 4 can yn cynnwys 'Wonder Child' gan Mary Black, gan iddo ef a'i wraig fynd trwy driniaeth IVF.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul18:00

Darllediad

  • Dydd Sul18:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad