
Myfyrwyr newydd Coleg Glynllifon
Ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd, sgwrs gyda rhai o fyfyrwyr newydd Coleg Glynllifon. At the start of a new educational year, Glynllifon College pupils talk about their studies
Ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd, sgwrs gyda rhai o fyfyrwyr newydd Coleg Glynllifon, ynghyd â'u darlithydd Esmor Wyn Hughes am eu gobeithion am y dyfodol, a'u profiadau ar y cwrs hyd yma.
Sara Elan Jones sy'n ymweld ag Eglwys y Santes Fair yn Llanllwch ger Caerfyrddin i glywed mwy am gynllun EcoEglwys, sy'n helpu capeli ac eglwysi i ystyried materion amgylcheddol, gofalu am y tir a bywyd gwyllt, lleihau'r defnydd o ynni, ymgysylltu â'r gymuned ehangach, a llawer mwy. Ymysg y siaradwyr mae'r Parchedig Ann Howells, Helen Thomas, aelod o bwyllgor yr Eglwys, a Delyth Higgins, Swyddog EcoChurch i Gymru.
Hefyd, stori Mared Jones, yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, sydd wedi agor siop win gyda'i gŵr yn nhref Crughywel.
Y gyfreithwraig Awel Mai Hughes sydd â'r newyddion diweddaraf o ran y polisiau a'r grantiau amaethyddol, a sgwrs gydag Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen am gyfrol newydd sbon ar y gyfres Cefn Gwlad, sy'n cael ei chyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon.
Cynhyrchiad cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.
Ar y Radio
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Yfory07:00BBC Radio Cymru
- Yfory15:30BBC Radio Cymru