Theatr Bara Caws yn 50, Arddangosfa y 90au yn Tate Britain ac ail nofel Gwenno Gwilym LOL
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Ar y rhaglen heddiw mae’r awdur o Ddyffryn Ogwen, Gwenno Gwilym yn galw heibio’r stiwdio ym Mangor i sgwrsio am ei hail nofel 'LOL'.
Blas o arddangosfa yn Oriel Tate Britain yn Llundain sy’n dathlu creadigrwydd beiddgar a gwrthryfelgar y 1990au gawn ni gan yr awdur a’r hanesydd celf Becca Voelcker.
Ac mae ymweliad â chanolfan Theatr Bara Caws yng Nghaernarfon wrth iddyn nhw ddathlu eu penblwydd yn 50 ac yn gwneud hynny drwy lwyfannu drama newydd 'Bugail Geifr' gan Aled Jones-Williams.
Ar y Radio
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediadau
- Heddiw13:00BBC Radio Cymru
- Yfory18:00BBC Radio Cymru
