Main content

Cychwyn calonogol i bawb

Owain Llyr sy'n ymuno efo Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i grynhoi penwythnos agoriadol y tymor i'r clybiau EFL, a rhoi teyrnged i'r Cofi Messi.

Pwynt yr un i Gaerdydd a Wrecsam; buddugoliaeth yr un i Abertawe a Chasnewydd - roedd yna rywbeth i bawb ar benwythnos agoriadol y tymor i'r clybiau EFL. Ai dyma'r tymor fydd Rubin Colwill yn torri mewn i gynlluniau Craig Bellamy? Lle mae Wrecsam angen cryfhau? Fydd Zan Viponik dal yn Abertawe wythnos nesaf? Ydi Hayden Mullins wedi darganfod y gyfrinach yng Nghasnewydd?

Ac mae Owain a Malcolm yn talu teyrnged i Darren Thomas, wrth i'r Cofi Messi benderfynu dod â gyrfa 15 mlynedd gyda Chaernarfon i ben. Owain Llyr sy'n cyflwyno.

Release date:

11 months left to listen

59 minutes

Podcast