Main content

Bellamy, Parkinson a dannedd yn hedfan

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried os ydi rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi tawelu'r amheuon wrth ymateb i gwestiynau am ei drafodaethau efo Burnley.

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried os ydi rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi tawelu'r amheuon wrth ymateb i gwestiynau am ei drafodaethau efo Burnley. Roedd yna "ddiffyg parch" gan Bellamy yn ôl Malcolm, tra bod Owain yn credu bod yr holl broses yn rhywbeth cyffredin iawn yn y byd pêl-droed.

Un peth anghyffredin iawn, serch hynny, ydi'r pwysau mae rheolwr Wrecsam Phil Parkinson yn ei deimlo ar ôl cychwyn hynod siomedig i'r tymor, gafodd ei amlygu gan y grasfa o 6-0 yn West Ham. Fydd y perchnogion hyd yn oed ystyried diswyddo'r rheolwr o gofio ei holl lwyddiant?

Ac mae dannedd Malcolm yn creu trafferth iddo unwaith eto, ac yn peryglu diogelwch Dylan!

Release date:

11 months left to listen

52 minutes

Featured

  • .

Featured in...

Podcast