Main content
Yr actor Osian Morgan yn 'Diolch i Miss Williams' am adnabod ei dalent perfformio yn gynnar
Osian Morgan sy'n esbonio sut y cafodd ei dynnu i fyd perfformio a'i ysbrydoli gan athrawon a welodd ei dalent yn gynnar; Mae'r actor o Gaerdydd, sydd bellach yn enwog am ei rolau mewn ffilmiau fel 'Mr Burton' a 'Power', ac mewn cyfresi fel 'Pobol y Cwm' ac 'Emmerdale', yn cofio mai cynyrchiadau o Les Misérables yn yr ysgol, ac yn ddiweddarach gyda'r Urdd, a roddodd flas ar berfformio iddo. Mae'n diolch i'w athrawes Gymraeg, Miss Williams, a'r cynhyrchydd theatr, Cefin Roberts, am adnabod a meithrin ei dalent yn gynnar.





