Episode details

Radio Cymru,24 May 2026,56 mins
Meinir Mathias, Under Milk Wood, Marlyn Samuel a Hedydd Ioan
Llwyfan gyda Manon Steffan RosAvailable for 30 days
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Ậ hithau yn wythnos Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, mae Manon yn sgwrsio gydag un o awduron mwyaf poblogaidd yr ynys, sef Marlyn Samuel. Hedydd Ioan sy'n trafod prosiect creadigol sy'n archwilio'r berthynas rhwng y tir a choed yn Oriel Plas Glyn y Weddw ym Mhen Llŷn. Cynhyrchiad Theatr Clwyd o ddrama Dylan Thomas, 'Under Milk Wood' sydd yn mynd â bryd y dramodydd a'r actores Mared Llywelyn. Ac mae yna ymweliad ag Oriel Ffin y Parc, Llandudno, lle mae yna arddangosfa newydd o waith yr artist o Geredigion, Meinir Mathias newydd agor.
Programme Website