Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,11 Oct 2026,56 mins

Cymry Heddiw, Opera, Catrin Lliar Jones, Christine Mills a Gruff Huws

Llwyfan gyda Manon Steffan Ros

Available for 23 days

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Yn y rhaglen yma mae Catrin Lliar Jones yn trafod ei hail nofel, ‘Sandra, Un Dyn ar y Tro' sydd newydd ei chyhoeddi. Mae'r cerddor a’r cyfansoddwr Geraint Lewis yn rhannu ei argraffiadau o gynhyrchiadau diweddar Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd tra bod yr artist amlgyfrwng Christine Mills yn trafod ei harddangosfa newydd yn Oriel Storiel, Bangor. Ac mae’r gwneuthurwr ffilmiau a'r seren cyfryngau cymdeithasol, Gruff Huws yn galw heibio’r stiwdio i sgwrsio am ail bennod y gyfres gomedi 'CICIO' mae o’n ei chreu ar y platfformau digidol. Ac i gyd-fynd gydag Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Nushin Chavoshi-Nejad yn sgwrsio am gyfrol mae hi wedi ei chyd-olygu gyda Dionne Bennett o'r enw 'Cymry Heddiw'.

Programme Website
More episodes