Episode details

Available for 25 days
Stori Rhys Jones o Lanwrda, Sir Gaerfyrddin sydd newydd ddechrau fel darlithydd amaeth yng Ngholeg Plumpton yn Nwyrain Sussex. Hefyd, Lois Cernyw sy'n sgwrsio gyda Hefina Williams, gwirfoddolwraig gydag elusen wledig Sefydliad y DPJ, wrth i'r elusen ddathlu pen-blwydd yn 10 oed eleni. Ffion Owen o Chwilog sy'n rhannu profiadau o fod yn rhan o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio eleni. Y newyddion diweddaraf o'r sector cynhyrchu llaeth gyda Richard Davies, a'r maethegydd naturiol o Ruthun, Elen Lloyd sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg. Cynhyrchiad cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.
Programme Website