Episode details

Available for over a year
Mae Jon Gower ac Elinor Gwynn wedi crwydro i Ganolbarth Cymru y tro hwn ac yn chwilota am hanes a straeon cyfoes am gronfeydd Cwm Elan. Dewi Roberts (Dyn yr Afon) sy’n crwydro llyn Pen y Garreg gydag Elinor ac yn llythrennol fentro i grombil y gronfa. Mae Jon yn clywed gan Gareth Bonello a fu yn byw yng Nghwm Elan am flwyddyn ac effaith hynny ar ei gerddoriaeth a’i ddaliadau ehangach. Meic Birtwistle sy’n creu darlun o gronfa Claerwen a’r olygfa o Geredigion draw am Gwm Elan. Mae Cwm Elan a’i chronfeydd wedi ysbrydoli artistiaid, cerddorion, beirdd ac awduron ar hyd y canrifoedd a chawn glywed pwt o waith Gareth Bonello, Ffransys Payne, a’r prifardd Hywel Griffiths yn ogystal â chipolwg ar luniau Eustace Tickell o’r ardal cyn y boddi. Cynhyrchiad Cwmni Unigryw i BBC Radio Cymru.
Programme Website