Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,22 Nov 2026,27 mins

Available for 28 days

Mae Iolo Williams yn parhau ar daith ryfeddol ar hyd un o lwybrau hynaf Cymru. Yr archeolegydd Rhys Mwyn sydd yn ei arwain ar hyd Sarn Helen, yr hen ffordd Rufeinig sy'n plethu drwy galon y wlad. Wedi dechrau'r daith yn Nyffryn Conwy, maent bellach wedi cyrraedd Trawscoed, ac yn parhau tuag at y De Orllewin. Dyma'r drydedd cyfres o Sarn Helen, ac mae'r rhaglenni sydd yn dilyn yn mynd a ni tua tref Caerfyrddin. Mae'r gyfres yn cyfuno hanes, natur a phobl mewn ffordd fywiog a difyr. Wrth gerdded drwy fynyddoedd, dyffrynnoedd a thirweddau eiconig Cymru, mae Iolo a Rhys yn cael cwmni amrywiaeth o westeion, gan gynnwys Dr Leona Huey archeolegydd a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor sydd yn taflu goleuni newydd ar straeon y tir a'r cymunedau sydd wedi'u siapio ganddo dros y canrifoedd. Ar hyd y ffordd, mae Iolo'n rhannu'i wybodaeth a'i angerdd dros fyd natur. Ond nid taith drwy'r dirwedd yn unig yw hon. Mae hefyd yn daith drwy amser. Gyda Rhys Mwyn a Leona yn datgelu'r hanes archeolegol y tu ôl i'r ffordd enwog, mae Iolo'n holi sut a pham y cafodd y rhwydwaith Rhufeinig ei adeiladu, beth wnaeth y Rhufeiniaid ei gyflwyno i ni yng Nghymru, a sut y cysylltai'r ffyrdd hyn gaerau, aneddiadau a'r arfordir. Ond yma mae'r criw yn crwydro ardal Trawscoed sydd i'r de o Aberystwyth, ac yn cael cwmni Dr Hywel Griffiths, Darllenydd mewn daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac Elen Trawscoed, sef Elen James , sydd yn Bennaeth Addysg Cyngor Ceredigion ac Elen Lewis sydd yn byw yn fferm Sarnau, ac mae Sarn Helen yn dod trwy eu tir nhw. Fe fydd stori am ysbryd i'w chlywed hefyd!

Programme Website
More episodes