Episode details

Radio Cymru,2 mins
Eurig Wyn Jones cyfreithiwr patentau ac arbenigwr mewn deallusrwydd artiffisial.
Beti a'i PhobolAvailable for over a year
Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys Môn, yw gwestai Beti George. Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain fel dadansoddwr patentau, cyn gweithio i Sony yn yr Almaen fel peiriannydd patent. Yn ddiweddarach, bu’n gweithio gyda Johnson & Johnson yn y maes diabetes, lle ysgogwyd ef i ddatblygu ffordd well o fonitro lefelau glwcos. Arweiniodd hyn at sefydlu Ego Medical, cwmni a gododd €130 miliwn i ddatblygu monitor glwcos parhaus, er na lwyddodd y cynnyrch i gyrraedd y farchnad. Wedi hynny, cwblhaodd ei gymwysterau fel atwrnai patentau, gan barhau i weithio ym maes eiddo deallusol. Yn fwy diweddar, mae wedi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), sydd bellach yn rhan allweddol o’i waith. Yn 2017, aeth Eurig i Awstralia i siarad mewn cynhadledd ar ddeallusrwydd artiffisial a phatentau. Yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad, dechreuodd ailystyried ei ddyfodol a theimlo bod angen newid cyfeiriad, gyda’r gobaith o ddychwelyd i Gymru rhyw ddydd. Mae hefyd yn myfyrio ar ei benderfyniad i sefydlu ei gwmni yn yr Almaen yn hytrach nag yng Nghymru oherwydd diffyg buddsoddiad a chyfleoedd ar y pryd. Yn y darn yma mae'n sôn am ei Dad oedd yn gapten llongau a'i ddawn o ddod a'r llongau i borthladd Caergybi yn ystod tywydd garw.
Programme Website