Episode details

Available for over a year
Vaughan Roderick sydd yn poeni am y proffesiwn newyddiaduraeth ac yn sôn am y cyflogau siomedig o isel sy'n wynebu'r genhedlaeth newydd o newyddiadurwyr. Fe ddaw'r darn yma o raglen Beti a'i Phobol. Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae’n cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr â Richard Wyn Jones.
Programme Website