Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Enfys Hatcher - enillydd Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2026

Y Talwrn

Available for over a year

Enfys Hatcher (Tafarn Y Vale) yw enillydd Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2026 - am delyneg orau'r gyfres. Testun y delyneg yw 'Gweithdy' ac mae’r delyneg yn darlunio’n gynnil iawn natur galar a hiraeth ar ôl colli tad. Dwynwen Llywelyn sy’n darllen y gerdd. Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gweithdy Twriaf yn y pic-a-mics o sgriwiau a bolltiau yn nroriau’r cawdel. Bydd e ‘ma rhywle... Arogl weldio’n dew, yn glynu i ‘nillad, anhrefn cyfarwydd y silffoedd yn fy meddwi. Mae e ‘ma rhywle... Mygiau gwag yn rhes ar ffenest, â’r olion olew’n bodio’r cof. Eisteddaf ar hen focs-tŵls, ac yng ngwres y sbarcs, yn sŵn y morthwyl, yn atsain ddoe ...rhywle, mae e ‘ma. Dwynwen Llywelyn yn darllen gwaith Enfys Hatcher

Programme Website
More episodes