Episode details

Radio Cymru,3 mins
Llongyfarchiadau Jonathan Davies, enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2026
Eisteddfod Genedlaethol 2026Available for over a year
Jonathan Davies sydd wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2026. Cafodd ei wobrwyo ar lwyfan y Pafiliwn ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Mercher, Aled Hughes sy'n cael cyfle i'w longyfarch. Cychwynnodd Jonathan Davies, o Lwchwr ger Abertawe, ddysgu Cymraeg er mwyn ailgysylltu â'i dreftadaeth a'i hunaniaeth ar ôl byw yn Llundain. Y tri arall oedd ar y rhestr fer oedd Caroline Jones, Kierion Lloyd a Paige Morgan. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd. Mae'r enillydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.
Programme Website