Episode details

Available for over a year
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau. Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn sylwebu ar gemau pêl-droed ac yn dad ifanc. Ers hynny, mae wedi dringo i frig ei broffesiwn gan ddod yn Farnwr, tra'n parhau â'i waith fel un o sylwebwyr pêl-droed mwyaf adnabyddus Cymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd Llys yr Eisteddfod ac, erbyn hyn, yn daid balch. Roedd y sgwrs yn gyfle i edrych yn ôl dros daith ryfeddol o dri degawd, gan olrhain y datblygiadau yn ei yrfa a'i fywyd personol ers ei ymddangosiad cyntaf ar y rhaglen. Yn ystod y sgwrs, bydd yn trafod yr heriau sy'n wynebu carchardai ym Mhrydain, cyflwr y system gyfreithiol, a'i bryder cynyddol am effaith newid hinsawdd. Yn y darn yma mae Nic yn trafod sut mae rheithgor yn cael ei ddewis, ac yn edmygu nhw am eu gwaith.
Programme Website