Episode details

Available for over a year
"Yr Octagon, Bangor" - enw sy'n codi llu o atgofion i lawer. Mae Arwel Hughes (Arwel MAD) yn mynd â ni'n ôl mewn amser i gofio'r nosweithiau a'r eiliadau arbennig. Breuddwyd Arwel ers yn fachgen ifanc oedd bod yn DJ. Yn 13 oed, roedd eisoes yn cadw nosweithiau ar Ynys Môn, gyda'i dad yn cludo'r recordiau o un lleoliad i'r llall. Yn ddiweddarach, daeth yn DJ preswyl yn yr Octagon, Bangor, lle bu'n diddanu torfeydd am dros 10 mlynedd. Daw'r clip hwn o raglen Beti a'i Phobol, ac mae'r rhaglen gyfan ar gael i wrando arni ar BBC Sounds. Beth yw eich hoff atgof chi o'r Octagon?
Programme Website