Gwneud fideo am wyliau’r haf
IZZIE Helo!
PAWB Helo Izzie!
IZZIE Dw i’n gwneud fideo.
ELIN Pa fath o fideo?
IZZIE Fideo am ein gwyliau haf.
PAWB O, waw. Grêt!
IZZIE Dan, ti sy gyntaf.
Beth wyt ti’n hoffi wneud yn dy amser hamdden?
DAN Dw i’n hoffi chwarae pêl-droed.
IZZIE Chwaraeaist ti pêl-droed yn ystod y gwyliau?
DAN Do, chwaraeais i i dîm Bangor. Dydd Sul, sgoriais i gic gosb wych. Enillon ni’r gêm.
IZZIE O, da iawn.
Kasia, oes gen ti hobi?
KASIA Oes, dw i’n mwynhau syrffio.
IZZIE Est ti i syrffio yn ystod y gwyliau?
KASIA Do, syrffiais i ar don fawr.
IZZIE O, da iawn.
Carter, beth wyt ti’n hoffi wneud yn dy amser hamdden?
CARTER Dw i wrth fy modd yn chwarae gitâr achos mae’n hwyl.
RAV Dw i wrth fy modd yn chwarae drymiau achos dw i’n hoffi gwneud sŵn.
ELIN Mae’n well gen i ganu. Wnaethon ni ffurfio band.
CARTER/RAV Do – Y Sŵn.
ELIN Chwaraeon ni gig enfawr.
IZZIE O, da iawn.
DAN Gawn ni weld y fideo plîs?
IZZIE Cewch, wrth gwrs. Mewn munud.
Dahra!
Dyma’r gic gosb wych.
Dyma’r don fawr.
Dyma’r gig enfawr.
Pwy sy wedi bod yn dweud celwydd?
More on Gwrando
Find out more by working through a topic
- count6 of 18

- count7 of 18

- count8 of 18

- count9 of 18
