Cofrestrwch ar gyfer Datrys y Stori

Part ofOther Side of the Story

Beth yw Datrys y Stori?

Yn dod yn fuan! Mae Datrys y Stori yn gyfres chwe rhan newydd sbon a chyffrous gan BBC Bitesize Ochr Arall y Stori, sydd wedi'i chynllunio i gael ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i helpu pobl ifanc i gryfhau eu sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Yn yr antur ddirgelwch hon a fydd yn eu cadw ar bigau’r drain, bydd myfyrwyr yn dilyn grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau wrth iddynt weithio’n gyflym i ddatrys dirgelwch a phrofi eu sgiliau digidol a dadansoddi.

Ble alla i gofrestru?

Athrawon! Cofrestrwch eich ysgol yma a chael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y ffilmiau a'r adnoddau i athrawon.

Sut gallwch chi ddefnyddio Datrys y Stori yn yr ystafell ddosbarth?

Parwyd pob pennod â ffilm fer ac ymarferol ‘sut mae gwneud’, sy'n canolbwyntio ar sgil ymwybyddiaeth o'r cyfryngau penodol fel sylwi pa ddelweddau sydd wedi'u trin, adnabod penawdau rhagfarnllyd, dadansoddi crynodebau cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio ffynonellau dibynadwy a’u gwirio.

Bydd amrywiaeth o adnoddau diddorol ar gael hefyd er mwyn cefnogi trafodaethau yn yr ystafell ddosbarth a dyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o gysyniadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau allweddol.

Mae'r rhain yn cynnwys gwersi ar fideo sy'n barod i'w defnyddio, gweithgareddau sy'n procio'r meddwl ac awgrymiadau trafod i sbarduno meddwl beirniadol.

This is a decorative purple line to separate and organise content on the page.

Not sure if the news you’re seeing on social media is true or false? Can you always tell if the things you see online are real or fake? Learn how to get the other side of the story with our quizzes, videos and explainers.

What is the Other Side of the Story?

1Xtra's Reece Parkinson explains why it's important to check the facts and take an impartial view.

What is the Other Side of the Story?

Bitesize for Teachers

Free classroom resources for primary and secondary school teachers.

Bitesize for Teachers