Proses gwneud cais

Esbonio proses gwneud cais am brentisiaeth y BBC, cam wrth gam

Rydych chi’n gobeithio gwneud cais am brentisiaeth yn y BBC, ond yn gweld y broses ymgeisio braidd yn frawychus. Gadewch i ni drafod pob cam o'r broses ymgeisio. A gobeithio, erbyn diwedd y fideo, y bydd pethau'n llawer cliriach ac y byddwch chi'n barod i gyflwyno’ch cais.
Gadewch i ni ddechrau o'r dechrau.
Y peth cyntaf i’w wneud yw llenwi ffurflen gais. Mae dau bwrpas i’r ffurflen hon. Yn gyntaf, mae angen i ni gasglu ychydig o wybodaeth amdanoch chi i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun rydych chi'n gwneud cais amdano. Yn ail, bydd y ffurflen yn gofyn i chi pam mae gennych chi ddiddordeb yn y brentisiaeth. Mae'n bwysig iawn i chi wneud rhywfaint o ymchwil, i wneud yn siŵr eich bod chi'n gwneud cais am y cynllun sydd fwyaf o ddiddordeb i chi ar yr adeg yma yn eich gyrfa. Edrychwch ar lefel y brentisiaeth rydych chi'n gwneud cais amdani, ac a yw'n addas i chi. Hefyd, mae'n bwysig edrych ar y rolau y mae pobl fel arfer yn eu gwneud ar ôl cwblhau'r brentisiaeth rydych chi'n gwneud cais amdani. Ydy hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi neu'n eich cyffroi?
Does dim angen i chi lanlwytho CV na llythyr eglurhaol yn rhan o'ch cais ar gyfer prentisiaeth gyda ni.
Ar ôl i ni weld eich ffurflen gais, cewch eich gwahodd i wneud asesiad rhyngweithiol byr. Bydd yr asesiad yn amrywio yn ôl y brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Dydyn ni ddim yn poeni faint o brofiad sydd gennych chi; eich cryfderau a'ch sgiliau sydd o ddiddordeb i ni. Bydd cyfle i chi ymarfer ymlaen llaw, felly peidiwch â phoeni am hynny.
Bydd ymgeiswyr sy'n cyrraedd cam tri y broses ymgeisio yn cael eu gwahodd i gyflwyno set newydd o wybodaeth drwy lwyfan digidol. Ar y cam hwn yn y broses, rydyn ni eisiau gwybod mwy amdanoch chi – beth rydych chi’n hoffi ei wneud, beth rydych chi’n dda am ei wneud, a beth sy’n eich cymell a’ch ysgogi chi. Bydd gofyn i chi gyflwyno ymatebion ysgrifenedig ac ymatebion fideo wrth ateb ein cwestiynau. Ond peidiwch â phoeni: byddwch yn cael cyfle i ymgyfarwyddo â'r llwyfan a recordio eich ymatebion, a gallwch ailrecordio eich ymatebion gynifer o weithiau ag y bydd angen. Peidiwch â phoeni, dydyn ni ddim yn rhoi sgôr i’ch perfformiad – nid cyfweliad ydy hwn. Ond efallai y byddwch chi eisiau meddwl am eich lleoliad ffilmio. Cofiwch, beth rydych chi’n ei ddweud sy’n bwysig i ni, felly peidiwch â phoeni os ydych chi’n nerfus am fod ar gamera.
Ar gam pedwar, bydd angen i chi wneud cyfweliad neu sesiwn canolfan asesu. Ar-lein mae’r rhain yn cael eu cynnal fel arfer, ond gallent gael eu cynnal wyneb yn wyneb ar gyfer rhai o’n cynlluniau. Bydd angen i chi hefyd gwblhau tasg asesu ymlaen llaw a fydd yn gysylltiedig â'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Bydd hyn yn golygu eich bod chi, a ninnau hefyd, yn gallu penderfynu ai dyma'r cynllun iawn ar gyfer yr hyn rydych chi'n gobeithio ei gyflawni.
Bydd cyfle i gwrdd â staff y BBC a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi hefyd. Efallai mai un o'r cwestiynau sydd ar eich meddwl ar hyn o bryd yw beth ddylech chi ei wisgo ar gyfer eich sesiwn canolfan asesu neu gyfweliad. Yr ateb yw beth bynnag rydych chi’n teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus ynddo. Does dim angen i chi wisgo siwt oni bai mai dyna y byddech chi’n ei wisgo fel arfer, ond peidiwch â chyrraedd yn eich pyjamas chwaith.
Ac os byddwch chi’n llwyddiannus ar y cam olaf – cam pump – byddwn yn anfon cynnig atoch i ymuno â ni. Rhwng hynny a'ch dyddiad dechrau, bydd ein tîm cynlluniau yn cysylltu â chi i ddweud popeth y mae angen i chi ei wybod cyn eich diwrnod cyntaf. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gysylltu â’r bobl eraill sydd ar eich cynllun, ac i gael ateb i unrhyw gwestiynau.
Ein huchelgais ni yw bod y BBC i bawb ac y dylai gynnwys pawb. Rydyn ni’n falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy’n gysylltiedig ag anabledd. Mae cynhwysiant yn bwysig i ni, ac rydyn ni am sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir yn cael y cymorth neu’r addasiadau sydd eu hangen arnynt.
Os oes angen i ni wneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer yn y broses ymgeisio neu os ydych chi eisiau rhoi gwybod i ni am anghenion mynediad, gallwch wneud hynny drwy ein ffurflen gyswllt ar-lein, sydd ar gael ar ein gwefan Gyrfaoedd Cynnar. Byddwn yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod y ffordd orau o’ch cefnogi drwy gydol y broses ymgeisio.

 

Trosolwg

Yn ystod y broses ymgeisio, rydym eisiau dysgu mwy am eich sgiliau a’ch diddordebau yn ogystal ag edrych ar sut rydych chi’n dangos ein gwerthoedd a’n hymddygiad. Mae’r camau’n cael eu haddasu yn ôl rôl, a byddwch yn cael rhagor o wybodaeth pan fyddwch yn gwneud cais ac yn ystod bob cam o’r broses. Isod ceir trosolwg o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl.

Cam 1 – Gwneud cais ar-lein

Ffurflen gais yw cam cyntaf y broses ymgeisio. Gofynnir i chi lenwi gwybodaeth amdanoch eich hun i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, a chael rhagor o wybodaeth am eich cymhelliant dros wneud cais. Cyn i chi ddechrau eich cais, treuliwch amser yn ymchwilio i’r cynllun a’r rôl rydych chi’n teimlo sydd fwyaf addas i chi ar gyfer y cam rydych chi arno yn nhaith eich gyrfa.

Ar gyfer ein rolau prentisiaeth, does dim rhaid i chi lanlwytho llythyr eglurhaol na CV i fyny fel rhan o gais.

Cam 2 – Profion ar-lein

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun rydych chi wedi gwneud cais amdano, byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad rhyngweithiol byr. Gallai hyn gynnwys cwestiynau sy’n seiliedig ar gryfderau, ymarferion barnu sefyllfa, neu dasgau codio yn dibynnu ar ba rôl rydych chi’n gwneud cais amdani. Cyn eich asesiad, byddwch yn cael amser i ymarfer rhai cwestiynau.

Cam 3 – Cyfweliad fideo

Yn y cam hwn, rydym eisiau dysgu mwy amdanoch chi, eich cryfderau a’ch cymhelliant dros wneud cais i fod yn brentis yn y BBC. Bydd y rhan fwyaf o’r cwestiynau yn gofyn i chi recordio ymateb fideo, gyda rhai yn gofyn am ymateb ysgrifenedig. Peidiwch â phoeni oherwydd byddwch yn cael cyfle i ddod yn gyfarwydd â’r broses o recordio eich ymatebion. Byddwch hefyd yn gallu ail-recordio eich ymatebion. Ni fydd angen i chi gwblhau cyfweliad fideo ar gyfer rhai o’n rolau technegol.

Cam 4 – Canolfannau asesu

Cam olaf ein proses yw’r ganolfan asesu, sy’n cael ei gynnal ar-lein fel arfer. Mae hyn yn cynnwys cyfres o ymarferion fel ymarfer grŵp a chyfweliad. Mae’r profiad wedi’i gynllunio i roi’r cyfle gorau i chi ddangos i ni beth allwch chi ei wneud, yn ogystal â’ch cymhelliant i ymuno â’r BBC, y rôl a’r cynllun. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â staff y BBC a gofyn unrhyw gwestiynau iddynt. Ar gyfer rhai cynlluniau, byddwn yn gofyn i chi gwblhau tasg cyn-asesu cyn y diwrnod, neu efallai byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein.

Cam 5 – Cynnig

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud cynnig i chi ymuno â ni ym mis Medi 2025. Yn y cyfnod rhwng cael eich cynnig a’ch dyddiad dechrau, bydd ein tîm cynlluniau yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am bopeth sydd arnoch ei hangen cyn eich diwrnod cyntaf yn y BBC. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gysylltu ag eraill sy’n ymuno â’n cynlluniau a chael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.


Cymorth gyda’ch cais

Ein huchelgais ni yw bod y BBC ar gyfer pawb ac y dylai gynnwys pawb. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy’n gysylltiedig ag anabledd.

Mae cynhwysiant yn bwysig i ni ac rydym am sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir yn cael y cymorth a’r addasiadau sydd eu hangen arnynt. Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch ar gyfer y broses ymgeisio neu os oes gennych chi anghenion mynediad yr hoffech roi gwybod i ni amdanynt, defnyddiwch y ffurflen hon i gysylltu â ni gan nodi enw’r cynllun yn y neges. Byddwn yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn eich cefnogi drwy’r broses.



Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: