WNO yn 80: 'Pobl Cymru ddim am adael i'r cwmni fynd â'i ben iddo'

Corws y Cwmni Opera Cenedlaethol yng Nghapel Ebeneser Caerdydd 1946Ffynhonnell y llun, WNO
Disgrifiad o’r llun,

Corws y Cwmni Opera Cenedlaethol yng Nghapel Ebeneser Caerdydd 1946

GanOwain Evans
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Tafarn y Prince of Wales yng nghanol Caerdydd yn fwy adnabyddus erbyn hyn fel cyrchfan i gefnogwyr rygbi ar ddiwrnod gêm fawr, ond yn y 1940au dyma oedd cartref cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru (WNO).

Operâu Cavalleria Rusticana a Pagliacci gefn wrth gefn oedd y perfformiadau cyntaf ar 15 Ebrill 1946, gyda pherfformiad o Faust y noson wedyn.

Fe wnaeth y cynhyrchiadau cyntaf yma gymaint o argraff fel bod pobl yn dod o bell i fod yn rhan o'r corws.

Prince of Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae ambell i nodwedd yn bodoli hyd heddiw sy'n awgrym o hanes y Prince of Wales

Yn ôl y cerddor a'r cyfansoddwr Geraint Lewis, roedd opera yn boblogaidd iawn yn y cyfnod.

"Roedd y corws ar y pryd yn hollol amatur. Doedden nhw ddim yn gweithio fel cerddorion proffesiynol," meddai.

"Bydden nhw i gyd yn dod o wahanol gefndiroedd, yn teithio lawr o'r cymoedd ac o'r gorllewin i Gaerdydd i greu breuddwyd newydd sef cwmni opera Cymreig am y tro cynta'.

"Roedd pobl yn dwlu mynd i weld cwmni opera Carl Rosa, oedd yn teithio bobman, ac roedd repertoire opera yn y cyfnod hwnnw yn repertoire digon poblogaidd."

Poster yn hysbysebu'r perfformiadau cyntaf
Disgrifiad o’r llun,

Poster yn hysbysebu'r perfformiadau cyntaf

80 mlynedd yn ddiweddarach, a Chanolfan y Mileniwm yw cartref presennol Opera Cenedlaethol Cymru.

Yno maen nhw'n paratoi ar gyfer perfformiad o opera Wagner, The Flying Dutchman, a fydd ar daith tan ganol Mai.

Mae toriadau ariannol mewn blynyddoedd diweddar - tua chwarter ei gyllideb yn ôl ymgyrchwyr - wedi arwain at dorri 'nôl ar deithio a pheidio â llenwi swyddi gwag.

Ond er y cyfnod heriol mae'r ddwy sy'n rhannu'r gwaith o arwain y cwmni - Sarah Crabtree ac Adele Thomas - yn teimlo'n bositif ynglŷn â'r dyfodol.

Sarah Crabtree ac Adele Thomas gefn llwyfan yng nghanolfan y mileniwm
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Crabtree ac Adele Thomas yw cyd-brif weithredwyr a chyfarwyddwyr y WNO

'Mwy o gefnogaeth i'r cwmni'

"Mae'r argyfwng ry'n ni wedi bod drwyddo yn gwneud i bobl sylweddoli be' mae'r WNO yn ei olygu iddyn nhw," meddai Adele Thomas.

"Ry'n ni wedi gweld cynnydd mawr mewn cefnogaeth i'r cwmni, i'n hunawdwyr, i'r corws, y gerddorfa a'r timau technegol.

"Dyna pam ry'n ni'n gwybod fod gyda ni 80 mlynedd arall o'n blaenau achos dyw pobl Cymru ddim yn mynd i adael i'r WNO fynd â'i ben iddo."

Ychwanegodd Sarah Crabtree: "Mae pethau wedi setlo o gymharu â lle'r oedden ni flwyddyn yn ôl, ond mae'n frwydr nid dim ond i'r WNO ond i opera yn gyffredinol ac i'r sector gelfyddydol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

"Mae 'na deimlad taw Cymru piau'r cwmni, yn wahanol i Loegr lle mae opera'n teimlo'n fwy dieithr."

Owain Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain Rowlands yn gobeithio cael gyrfa ym myd opera

Yn 27 oed, mae'r bariton Owain Rowlands yn gobeithio dilyn gyrfa fel canwr, ac mae cael bod yn artist cyswllt gyda'r cwmni opera yn cynnig cyfle euraid iddo wneud hynny.

"Mae'n golygu cymaint i fi fel artist ifanc. Dyma lle ni'n gallu magu profiad a hyder," meddai.

"Mae gymaint o bobl yn mynd i'r Eisteddfod yn tyfu lan, a dyma'r cam nesaf i ni fel cantorion Cymru.

"Chi'n edrych 'nôl ar yrfaoedd Rebecca Evans neu Bryn Terfel - dyma lle cychwynnodd e iddyn nhw, ac maen nhw wedi cael gyrfaoedd rhyngwladol.

"Gobeithio bydd hynny'n gallu digwydd i nifer fawr ohonom ni yn y dyfodol hefyd.

"Mae gan bobl gamargraff o beth yw opera, ei fod e'n rhy ddrud, bod rhaid i chi wisgo lan yn smart a bod yr opera'n rhy hir 'fyd.

"Mae'n rhaid iddyn nhw ddod i weld rhywbeth fel Blaze of Glory - bydde hwnna'n berffaith i ddechrau gyda."

'Goresgyn rhwystrau'

Yn ôl Adele Thomas mae'n bwysig cael cydbwysedd rhwng y traddodiadol a'r modern.

Mae cynhyrchu mwy o operâu Cymraeg eu hiaith yn flaenoriaeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

"Mae 'na gynulleidfa fawr sydd ddim yn credu bod Opera'n berthnasol iddyn nhw ar hyn o bryd," meddai.

"Cyn gynted ag y'ch chi'n goresgyn y rhwystrau hynny dwi'n meddwl y gwelwn ni fwy o bobl yn dod."

Geraint Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Geraint Lewis, gall opera "wneud i'r gwallt godi ar gefn eich pen"

Yn ôl Geraint Lewis, byddai ffrydio cynyrchiadau o Ganolfan y Mileniwm mewn sinemâu ar draws y wlad yn ffordd o godi proffil opera a magu cynulleidfa newydd.

Mae'r Met yn Efrog Newydd, Covent Garden a Glyndebourne yn gwneud hynny eisoes.

"Dyle fod Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn ffrydio pob cynhyrchiad o lwyfan Canolfan y Mileniwm i theatrau bach dros Gymru i gyd," meddai.

"Bydde pobl yn gallu gweld y cynyrchiadau yma yng Nghaergybi, Caernarfon, Aberteifi... Mae pawb yn 'neud e heblaw opera Cenedlaethol Cymru.

"Dyma gyfle i ddemocrateiddio opera dros Gymru fel bod pobl yn gweld ei fod e'n rhywbeth sy'n cynhyrfu chi.

"Mae opera yn 'neud i'r gwallt godi ar gefn eich pen ac mae ishe i bawb gael y profiad yna."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.