Anneira yn annog eraill i ddefnyddio'r Gymraeg... yn 97 oed!

- Cyhoeddwyd
"'Sdim lot o flynydde 'da fi ar ôl, ond 'wy'n mynd i 'neud gymaint â galla' i."
Mae Anneira Davies, sy'n 97 oed, yn profi nad yw cariad tuag at y Gymraeg byth yn pylu ac y gall pawb wneud eu rhan i gadw'r iaith yn fyw.
Bellach yn byw mewn cartref i'r henoed yn Nantgarw ger Caerffili mae hi wedi ennill y teitl o 'Hwylusydd y Gymraeg', drwy helpu staff y cartref i ddysgu Cymraeg ac annog aelodau eraill i ail-afael yn yr iaith.
'Mae'n bwysig'
Yn wreiddiol o Bontarddulais, ond wedi treulio'r rhan fwyaf o'i bywyd yn ardal Pontypridd, mae hi'n byw yng nghartref Duffryn Ffrwd ers dros dair blynedd bellach, ac yn hapus iawn yno.
Mae hi wedi helpu i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn y cartref; rhywbeth sy'n agos iawn at ei chalon hi.
"Mae hi'n hyfryd i glywed Cymraeg yma. Mae sawl un [o'r staff] wedi dangos diddordeb yn dysgu Cymraeg; bydde fe'n lyfli, i ni'r bobl sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae'n hyfryd ac yn fwy cartrefol – mae'n bwysig i bobl sydd wedi siarad Cymraeg ar hyd eu hoes. Mae'n gwneud gwahaniaeth.
"A phobl sy'n mynd i'r ysbyty; mae'n gneud pethau'n rhwyddach iddyn nhw. Bendant. Pan mae doctoriaid yn gofyn am symptomau, mae'n neis bo' chi'n gallu dweud yn eich iaith sut chi'n teimlo. Mae'n bwysig."
Hwylusydd y Gymraeg a hithau'n 97 mlwydd oed
Gydag anogaeth Anneira, mae mwy o'r Gymraeg bellach i'w gweld a'i chlywed yn y cartref.
Mae rhai o'r staff yn dod o dramor, fel Mary a Sarah sy'n dod o Nigeria. Maen nhw'n dod i stafell Anneira am sgwrs yn aml, ac maen nhw bob amser yn gadael gyda gair Cymraeg newydd. Y ffefryn ymhlith y staff ar hyn o bryd, meddai Anneira, yw 'bendigedig'!
Dyfal donc...
Ond mae rhai o weithwyr y cartref wedi bod drwy addysg Gymraeg, felly maen nhw'n cael eu hannog i ddefnyddio'r Cymraeg sydd ganddyn nhw.
Un o'r rheiny yw Michelle Findlay, Trefnydd Gweithgareddau'r cartref, sydd digwydd bod yn adnabod Anneira ers cael gwersi piano ganddi yn bump oed.
Aeth Michelle i ysgol gynradd Gymraeg, ond dim ond yn y blynyddoedd diwethaf – yn arbennig ers i Anneira symud i fyw yn y cartref – y mae hi wedi ail-ddechrau defnyddio'r iaith, ac mae ei hyder yn tyfu.

Mae dywediadau lu ar ddrws Anneira
Mae hi'n gweld pwysigrwydd cael y Gymraeg yn weledol iawn o gwmpas y cartref ac yn gyfrifol am yr arwyddion Cymraeg lliwgar ar y waliau.
"Ar bob coridor mae rhywbeth yn Gymraeg," eglurai. "Dwi wedi gwneud lliwiau, dyddiau'r wythnos, misoedd, blodau, y tywydd – 'mae'n wyntog', 'mae'n heulog'. Mae pob oedolyn yma yn defnyddio'r lifft ac yn gweld hynny bob dydd.
"Dwi'n defnyddio lot o liwiau ar y lluniau, a dwi'n hoffi eu gwneud yn handwritten hefyd. Mae gormod o bethau wedi printio mas – os yw e wedi ei ysgrifennu, maen nhw mwy tebygol o edrych arno."
Yn ôl Anneira, mae rhai o'r staff yn tynnu lluniau'r geiriau ar y waliau, er mwyn eu hymarfer adref: "Cadw lan, ymarfer. Dyfal donc a dyrr y garreg!"

Mae Michelle yn ffrind i'r teulu - roedd ei modryb ac Anneira yn ffrindiau mawr - felly mae hi wrth ei bodd ei bod yn cael gofalu am, a siarad Cymraeg gydag Anneira yn y cartref
Mae Michelle yn gefnogol iawn o ymdrech Anneira i ddysgu geiriau newydd i'r staff, sydd ond yn ddigon parod i'w defnyddio.
"Ni'n dysgu geiriau Cymraeg bob wythnos. Mae staff yn dysgu pethau fel hwyl fawr, helo, cinio, brechdanau, tÅ· bach, amser gwely; Cymraeg incidental.
"Mae'n bwysig iddyn nhw siarad y geiriau hyn i bob un o'r bobl sy'n siarad Cymraeg neu'n deall e. Mae lot o oedolion sydd wedi dod i fyw yma, sy'n gallu siarad Cymraeg. Fel fi, efallai, ddim yn siarad Cymraeg ers bod nhw'n fach iawn, ond yn gallu deall.
"Ac mae'n bwysig. Maen nhw'n teimlo mwy at home yn gwrando ar bobl yn siarad Cymraeg."

'Ni'n madde ambell i air Saesneg'
Mae merch Anneira, Nerys, yn dweud bod ymdrech ei mam a staff fel Michelle wedi gwneud gwahaniaeth i faint o Gymraeg sydd o gwmpas y cartref.
Fel Hwylusydd y Gymraeg yng Ngholeg y Cymoedd, mae hi'n jocian gyda'i mam fod gan y ddwy nawr yr un swydd!
"Dwi'n gobeithio mod i'n llwyddo!" meddai Anneira. "Os chi'n gallu siarad Cymraeg, marciau llawn! Dwi'n rhoi seren aur i rai o'r carers, ac maen nhw'n dweud 'diolch'. Os ydyn nhw'n dda, mae'n neis iddyn nhw gael gwybod.
"Ac os oes bach o Wenglish yn eu helpu nhw i siarad Cymraeg, wel da iawn, bwrw 'mlaen! Ni'n madde ambell i air Saesneg."

Anneira a Nerys - dwy Hwylusydd y Gymraeg!
Blwyddyn merch hynaf Anneira, Sian, oedd y flwyddyn gyntaf i fynychu i Ysgol Llanhari pan agorodd yn 1974, felly fel mae Nerys yn ei ddweud, mae ei mam wedi gorfod brwydro dros y Gymraeg ac yn erbyn agweddau gwrth-Gymreig ar hyd ei hoes.
Ac mae hi'n amlwg dal yr un mor weithgar ac angerddol am y peth heddiw.
"Fi'n clywed mwy o bobl sydd eisiau siarad Cymraeg na beth oedd," meddai Anneira. "'Couldn't care less' – dyna oedd yr agwedd. Ond mae rhyw flas wedi codi, a mwy o ddiddordeb yn y Gymraeg.
"Mae'n bwysig bo' chi'n gallu siarad Cymraeg. A pheidiwch bychanu neb sy'n gallu siarad Cymraeg; mae hwnna'n hala fi'n grac.
"'Sdim lot o flynydde 'da fi ar ôl, ond 'wy'n mynd i 'neud gymaint â galla' i. O bydded i'r hen iaith barhau... dwi'n meddwl ma' 'na'n bwysig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Mehefin

- Cyhoeddwyd1 Mawrth

- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2025
