Main content
'Dere - i weld gwlad arall' - Cerdd yr Wythnos Philippa Gibson
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llysgennad
Syndrom Down. Di-ddawn fydd hi?
Ond er hyn, dyw’r rhieni
am ei rhwystro - mae’r ‘estron’
yn llysgennad o wlad lon.
Yn ei thro, daw’n athrawes
yn y wers am gwtsio’n nes
wrth uno mewn chwerthiniad,
ac yn gallu dysgu Dad
â’i geiriau, “I ninnau ’no
’sdim cystal â dal dwylo”.
Myn croten trwy’i gwên, yn gall,
“Dere - i weld gwlad arall.”
Philippa Gibson





