Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Talwrn Tafwyl - parodi Llio Maddocks

Y Talwrn

Available for over a year

Pan ddaw’r tasgau draw gan Ceri Dim ond un dasg sy’n rili sgeri. Nid sgwennu y limrigau Na chwysu dros gywyddau. Cystadlu’n erbyn Huw Chiz. Y fi sy’n cael y dasg cân ysgafn Mae’n gwneud fi deimlo’n reit benysgafn. Mi wn i pwy fydd yno Yn barod i fy nghuro. Ie, neb ond Huw Chiz. Ysbryd Huw Chiz, tyrd drwyddo fi, Rho i mi lais sydd fatha ti. Rho i mi acen Baglan Bay Gad mi ganu’n gryf – “I be” Does gen i ddim gitâr na phiano Na phump CD, na ffans i glapio. Dwi heb fod ar y teli, Nac ennill Cân i Gymru Ond dwi yn erbyn Huw Chiz. Ysbryd Huw Chiz, Dere Nawr Er mwyn cystadlu yn erbyn cawr. Heb dy gefnogaeth, bydd Rhywbeth o’i Le Gad mi ganu’n gryf – “I be” Ysbryd Huw Chiz, Rho Un i Mi Ysbryd Huw Chiz, dwi’th angen di Ysbryd Huw Chiz, ar fy llw, Ysbryd Huw Chiz, bw-bwgi-bw. Ac yna’n sydyn ac yn dawel, Wi’n ffindo’n acen Abertawe Wi’n timlo o fy mreichie A reit i lawr i nghoese Mae Ysbryd Huw Chiz Ysbryd Huw Chiz, shwd mae’r hen ffrind Mae’n braf dy deimlo ynof fel hyn. Nawr yn fy acen Baglan Bay, Gad mi ganu’n gryf – “I be” (cytgan o Rhywbeth o’i le i orffen) Llio Maddocks

Programme Website
More episodes