Main content
Gwerthu bagiau ym Mharis
Mae Lauren Salter, sy’n fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yw un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniau’n wythnosol.
Daeth yn fwy enwog byth yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am iddi gyfweld chwaraewr rygbi o Ffrainc yn Ffrangeg a chyfieithu ei atebion yn syth i'r Gymraeg.
Fe ddaw yn wreiddiol o Lanelli, yn gyn disgybl Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Y Strade. Fe astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg fel Gradd ym Mryste, a bu'n gweithio am gyfnod yn siop Louis Vuitton ym Mharis yn ystod ei blwyddyn allan.
Mae hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa ac yn cofio am ei phlentyndod a'i hoffter o ffasiwn.





