Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cerdd yr Wythnos - Iestyn Tyne (Twtil)

Y Talwrn

Available for over a year

Cerdd yr wythnos yw cywydd gofyn Iestyn Tyne - cywydd gofyn (rhwng 12 a 18 llinell) unrhyw bŵer uwch (‘superpower’), o'r ornest rhwng Tir Iarll a Twtil. Afon amser a'i cherrynt sy'n ddi-ildio'n gwibio'n gynt; rhuthr anorfod sy'n codi yn rhugl iawn fy nghwrwgl i. Drwy’r rhuo maith, o’m llestr mân, ac o olwg y geulan, erfyniaf am rwyf heno – rhwyf fain i'w arafu o. Yn y dŵr, â’m harf diraen, pe medrwn, fe lywiwn flaen fy nghwch bach i gilfach gudd ambell lyn – am bwll llonydd, lle i oedi rhag lli llydan, oedi i gau fy llygaid gwan; lle nad awn, yn llai na dafn neu ryw hesgen frau, ysgafn drwy’r sianel ddiddychwelyd i’r bae hir ym mhendraw'r byd. Iestyn Tyne

Programme Website
More episodes