Main content

Cerdd yr Wythnos - Iestyn Tyne (Twtil)

Cerdd yr wythnos yw cywydd gofyn Iestyn Tyne - cywydd gofyn (rhwng 12 a 18 llinell) unrhyw bŵer uwch (‘superpower’), o'r ornest rhwng Tir Iarll a Twtil.

Afon amser a'i cherrynt

sy'n ddi-ildio'n gwibio'n gynt;

rhuthr anorfod sy'n codi

yn rhugl iawn fy nghwrwgl i.

Drwy’r rhuo maith, o’m llestr mân,

ac o olwg y geulan,

erfyniaf am rwyf heno –

rhwyf fain i'w arafu o.

Yn y dŵr, â’m harf diraen,

pe medrwn, fe lywiwn flaen

fy nghwch bach i gilfach gudd

ambell lyn – am bwll llonydd,

lle i oedi rhag lli llydan,

oedi i gau fy llygaid gwan;

lle nad awn, yn llai na dafn

neu ryw hesgen frau, ysgafn

drwy’r sianel ddiddychwelyd

i’r bae hir ym mhendraw'r byd.

Iestyn Tyne

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud