Main content

Talwrn Tafwyl - parodi Llio Maddocks

Y gamp ar gyfer y gân ysgafn oedd creu parodi ar 'Ysbryd y Nos', a dyma folawd Llio Maddocks i Huw Chiswell

Pan ddaw’r tasgau draw gan Ceri
Dim ond un dasg sy’n rili sgeri.
Nid sgwennu y limrigau
Na chwysu dros gywyddau.
Cystadlu’n erbyn Huw Chiz.

Y fi sy’n cael y dasg cân ysgafn
Mae’n gwneud fi deimlo’n reit benysgafn.
Mi wn i pwy fydd yno
Yn barod i fy nghuro.
Ie, neb ond Huw Chiz.

Ysbryd Huw Chiz, tyrd drwyddo fi,
Rho i mi lais sydd fatha ti.
Rho i mi acen Baglan Bay
Gad mi ganu’n gryf – “I be”

Does gen i ddim gitâr na phiano
Na phump CD, na ffans i glapio.
Dwi heb fod ar y teli,
Nac ennill Cân i Gymru
Ond dwi yn erbyn Huw Chiz.

Ysbryd Huw Chiz, Dere Nawr
Er mwyn cystadlu yn erbyn cawr.
Heb dy gefnogaeth, bydd Rhywbeth o’i Le
Gad mi ganu’n gryf – “I be”

Ysbryd Huw Chiz, Rho Un i Mi
Ysbryd Huw Chiz, dwi’th angen di
Ysbryd Huw Chiz, ar fy llw,
Ysbryd Huw Chiz, bw-bwgi-bw.

Ac yna’n sydyn ac yn dawel,
Wi’n ffindo’n acen Abertawe
Wi’n timlo o fy mreichie
A reit i lawr i nghoese
Mae Ysbryd Huw Chiz

Ysbryd Huw Chiz, shwd mae’r hen ffrind
Mae’n braf dy deimlo ynof fel hyn.
Nawr yn fy acen Baglan Bay,
Gad mi ganu’n gryf – “I be”

(cytgan o Rhywbeth o’i le i orffen)

Llio Maddocks

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau