Main content

Rhys Iorwerth - enillydd Tlws Coffa Dic Jones 2026

Rhys Iorwerth (Dros yr Aber) yw enillydd Tlws Coffa Dic Jones, a hynny am gywydd gorau’r gyfres. Y testun - 'Meini neu Maen'. Dyma gywydd o’r rownd derfynol.

Meini neu Maen

(Er cof am Robin Evans, Madryn, Lôn Ddewi, fy nghymydog a ffrind)

Be yw’r haf a hwnnw’n brin
o rywbeth? Mae’n wag, Robin,
yn ddiarth ar Lôn Ddewi,
yn od iawn am na ddoi di
at y lawnt i ddweud helô.
O Fadryn, er hyn, heno
daw miwsig drwy gerrig gwyn.
Daw’r wên gadarn. Ac wedyn,
hyd y dre, tros bafin stryd,
ar fur fe ddaw o’r Foryd
dy heulwen-môr o stori.
Dyna’r haf, mi fentraf i.

Rhys Iorwerth

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

52 eiliad