Y Coridor Ansicrwydd, Bellamy, Parkinson a dannedd yn hedfan

Y Coridor Ansicrwydd

Bellamy, Parkinson a dannedd yn hedfan

17 September 2026

Available for 358 days

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried os ydi rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi tawelu'r amheuon wrth ymateb i gwestiynau am ei drafodaethau efo Burnley. Roedd yna "ddiffyg parch" gan Bellamy yn ôl Malcolm, tra bod Owain yn credu bod yr holl broses yn rhywbeth cyffredin iawn yn y byd pêl-droed.

Un peth anghyffredin iawn, serch hynny, ydi'r pwysau mae rheolwr Wrecsam Phil Parkinson yn ei deimlo ar ôl cychwyn hynod siomedig i'r tymor, gafodd ei amlygu gan y grasfa o 6-0 yn West Ham. Fydd y perchnogion hyd yn oed ystyried diswyddo'r rheolwr o gofio ei holl lwyddiant?

Ac mae dannedd Malcolm yn creu trafferth iddo unwaith eto, ac yn peryglu diogelwch Dylan!